Pan ddaeth i’r amlwg y byddai is-etholiad yn cael ei gynnal yng Nghaerffili yn dilyn marwolaeth drist Hefin David, roedd ei bwysigrwydd yn glir i bawb.
Dwi’n cofio siarad â Cefin Campbell, ac i mi wybod, fo oedd y cyntaf i’w gymharu â’r hyn lwyddodd y Blaid a Gwynfor Evans i’w wneud yng Nghaerfyrddin yn 1966.
Wrth gwrs, mae amgylchiadau a chyd-destun y ddau is-etholiad yn gwbl wahanol.
Ond os oes un tebygrwydd, yna’r ffaith bod buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966 a Lindsay Whittle yn 2025 yn gamau allweddol i fedru gwireddu uchelgais penodol.
Dyfodol y Gymraeg oedd yn y fantol ym 1966.
Y tro hwn, cyfle gwirioneddol i Blaid Cymru arwain llywodraeth am y tro cyntaf erioed yw’r nod.
Disgrifiodd Arweinydd y Blaid Rhun ap Iorwerth y fuddugoliaeth fel un “ysgubol” i mi bore ’ma.
Does dim gwadu y byddai unrhyw fuddugoliaeth yng Nghaerffili – a hynny hyd yn oed o un bleidlais – yn ddigon i roi Plaid Cymru ar y brig fel y ffefryn ar gyfer mis Mai nesaf.
Ond i guro Reform UK o bron i 4,000 pleidlais, mae hynny’n rywbeth sydd wedi tynnu sylw, ac i ryw raddau wedi siomi’r blaid i’r pwynt lle’r oedd yna elfen o embaras.
Roedd Llŷr Powell ac aelodau’r blaid yn awyddus i adael mor gyflym â phosibl unwaith y daeth y canlyniad terfynol drwodd.
Ac yn wahanol i’r hyn a welsom mewn is-etholiadau lle mae Reform wedi ennill, fel yn Runcorn a Helsby, lle enillodd Sarah Pochin, doedd dim golwg o Nigel Farage.
Roedd hi hefyd yn noson hanesyddol i Lafur, wrth i’w canran nhw o’r bleidlais ddymchwel yn ddramatig.
O gymharu â’r etholiad yn 2021, fe wnaeth canran y bleidlais ostwng o 34.9%, gyda’u hetholwyr traddodiadol yn gweld mai Plaid oedd â’r siawns orau o guro Reform.
Mae hyn wir yn syfrdanol oherwydd mae’n cadarnhau rhywbeth a awgrymwyd gan y polau piniwn, sef bod grym y Blaid Lafur bron wedi diflannu.
Doedd neb wir yn meddwl fod gan Lafur siawns yng Nghaerffili, ond mae’r ganran o 11% o’r bleidlais hefyd yn drawiadol.
O dan system etholiadol newydd D’Hondt, gall hyn olygu mai dim ond un o chwe aelod yr etholaeth fydd â rhosyn coch y flwyddyn nesaf.
Un gobaith i Lafur y flwyddyn nesaf yw na fydd pleidleisio tactegol yn elfen fawr oherwydd y system gyfrannol.
Ond a oes digon o amser i ddenu’r cyn-gefnogwyr yn ôl i’r gorlan goch, yn enwedig y rhai i’r chwith o’r sbectrwm gwleidyddol.
Mae’n debyg mai ’na’ yw’r ateb i hynna, ond mae’n siŵr y bydd Eluned Morgan yn parhau i frwydro tan y canlyniad mawr fore Gwener, Mai 8.